Romulus Augustus
Romulus Augustus | |
---|---|
Ganwyd | 462 Ravenna |
Bu farw | 511 Castel dell'Ovo |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin |
Galwedigaeth | ymerawdwr |
Swydd | Western Roman emperor |
Tad | Orestes |
Ystyrir Flavius Romulus Augustus (c. 463 – wedi 476), weithiau Romulus Augustulus, fel yr Ymerawdwr Rhufeinig olaf yn y gorllewin. Teyrnasodd o 31 Hydref 475 hyd 4 Medi, 476.
Cafodd ei goroni'n ymerawdr yn 475, yn llanc ifanc tua 12 oed. Roedd ei dad, Orestes, yn bennaeth y fyddin Rufeinig (Magister militum), ac ef a osododd Romulus ar yr orsedd wedi iddo ddiorseddu Julius Nepos. Mae'n debyg mai ei dad oedd yn rheoli yn ei enw. Ddeg mis yn ddiweddarach, diorseddwyd Romulus Augustus gan Odovacer. Ni laddwyd Romulus; yn hytrach fe'i gyrrwyd i fyw yn y Castellum Lucullanum yn Campania. Nid oes cofnod o flwyddyn ei farwolaeth.
Yn eironig, roedd yr ymerawdwr olaf yn dwyn enw sylfaenydd dinas Rhufain, Romulus, ac enw ymerawdwr cyntaf Rhufain, Augustus.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Adrian Murdoch, The Last Roman[:] Romulus Augustus and the decline of the West (Sutton Publishing, 2006). ISBN 0-7509-4474-9
Rhagflaenydd: Julius Nepos |
Ymerodron Rhufain | Olynydd: Neb |